PET(4)-02-12 p4a

P-03-296 Cynigion Annheg ar Fenthyciadau i Fyfyrwyr

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod cynigion annheg Grŵp Prifysgolion Russell i orfodi graddedigion i ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr yn gyflymach ac ar gyfradd fwy serth.

 

Cynigwyd gan: Mr Cerith Rhys Jones

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Medi 2010

 

Nifer y llofnodion:146

 

Gwybodaeth ategol:

Yn ei dystiolaeth i’r Adolygiad Annibynnol o Gyllid i Addysg Uwch a Chyllid i Fyfyrwyr (fe’i gelwir hefyd yn ‘Adolygiad Browne’, oherwydd arweinyddiaeth y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Browne o Madingley) ym mis Mai 2010, cynigodd y Grŵp Russell o Brifysgolion, sef grŵp o 20 prifysgol ledled Prydain Fawr sy’n ymfalchïo yn safon eu gwaith ymchwil, ym mhwynt XI ei Grynodeb Gweithredol: “it [y gyfundrefn o gymorth i fyfyrwyr] should be reformed through the introduction of a real rate of interest, and increased repayment rates.”

 

Yn ogystal, ym mhwynt 3.72.1 o’i dystiolaeth i’r Adolygiad, mae’r Grŵp yn datgan ei fod yn cefnogi “the introduction of a real rate of interest”. Er bod CymruX yn sylweddoli bod cyfraddau llog presennol yn gallu bod yn amrywiol ar eu gorau, pryderwn beth fydd y gyfradd llog a gynigir. Rydym yn gwybod bod y Llywodraeth glymblaid yn Llundain yn awyddus i godi cyfraddau llog a threthi, felly mae CymruX yn pryderu y byddai’r gyfradd llog a bennir yn rhy uchel i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr o gefndiroedd anfanteisiol allu ei fforddio.

 

Mae pwynt 3.72 o dystiolaeth y Grŵp i’r Adolygiad yn awgrymu “a revised student support system should also incorporate mechanisms to encourage up-front payments, thereby reducing the overall burden of debt on the public purse”. Mae CymruX yn cydnabod bod dyled gyhoeddus a phreifat ym Mhrydain Fawr yn anghynaliadwy, ond nid yw’n sefydliad yn credu mai cosbi myfyrwyr yw’r ffordd orau o wella’r sefyllfa hon. Nid ydym yn deall pam mae’r Grŵp yn credu ei fod yn deg i annog myfyrwyr i dalu am addysg uwch o flaen llaw, os ystyried mai lleiafrif o fyfyrwyr a fydd yn gallu talu ffioedd yn y modd hwn.

 

Er nad y mater a ganlyn yw prif ddiben y ddeiseb hon, mae CymruX hefyd yn pryderu bod y Grŵp yn cynnig y dylid diddymu’r cap ar ffioedd i fyfyrwyr, a chaniatáu prifysgolion i bennu prisoedd ar gyfer addysg uwch. Byddai gwneud hyn yn achosi ffioedd i gynyddu’n gyflym, gan leihau mynediad at addysg uwch. Hefyd, bydd prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt yn gallu codi crocbris am addysg uwch, a fydd yn gwahardd unrhyw un nad yw’n aelod o’r dosbarthau ‘canol’ neu ‘uwch’ rhag eu mynychu.

 

Wrth gydnabod y cyfnod caled hwn, ac wrth werthfawrogi egwyddorion sosialaidd Plaid Cymru, nid yw CymruX yn credu ei fod yn deg neu’n gyfiawn i ofyn i fyfyrwyr ad-dalu benthyciadau ar gyfradd uwch. Mae ein sefydliad yn cadarnhau ei ymrwymiad at fyfyrwyr a graddedigion , ac yn tanlinellu ein cred ers amser maith bod gan bawb hawl i addysg, felly dylai addysg fod am ddim.

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthwynebu, hyd eithaf ei allu a’i bŵer, unrhyw gynlluniau y dymunai Grŵp Russell eu gorfodi ar Brifysgol Caerdydd, fel yr amlinellwyd yn ei dystiolaeth i Adolygiad Browne. Er bod addysg wedi cael ei ddatganoli, cred CymruX y byddai gweithredu’r cynlluniau hyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu y gallai prifysgolion eraill yng Nghymru ddilyn yr un trywydd. Nid ydym yn derbyn bod y cam hwn yn un priodol nac yn un derbyniol yn y Gymru fodern.

 

Rydym hefyd yn gofyn i grwpiau ac unigolion eraill ymuno â ni yn ein hymdrechion; credwn fod pwysigrwydd y mater yn bwysicach na gwahaniaethau pleidiol a gwleidyddol, a diolchwn i’r llofnodwyr am eu cefnogaeth.